Arolwg Iechyd Meddwl Plant

Rhannu Arolwg Iechyd Meddwl Plant ar Facebook Rhannu Arolwg Iechyd Meddwl Plant Ar Twitter Rhannu Arolwg Iechyd Meddwl Plant Ar LinkedIn E-bost Arolwg Iechyd Meddwl Plant dolen

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned wedi cael gwybod, drwy ein harolygon cenedlaethol, bod plant a phobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl (CAMHS) yn wynebu rhestr aros hir.

Mae nodi iechyd meddwl gwael a darparu cymorth a thriniaeth briodol yn hanfodol i blant a phobl ifanc. Heb ofal priodol, mae perygl y bydd cyflyrau'n parhau pan fyddant yn oedolion. Yn ystod y pandemig, mae tarfu ar amgylcheddau ysgol, cartref a chymdeithasol wedi effeithio ar lawer o’r systemau cymorth y mae pobl ifanc yn dibynnu arnynt ac efallai eu bod wedi gwaethygu eu hiechyd meddwl a’u lles, gyda’r potensial i effeithio ar eu bywyd hwyrach.

Er mwyn i’r CIC gael gwell dealltwriaeth o sut mae iechyd meddwl plant a phobl ifanc wedi cael ei effeithio ac i ddysgu mwy am eu profiadau o gael cefnogaeth trwy gydol y cyfnod hwn, gofynnwn i chi gwblhau’r arolwg ar ran eich plentyn.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd yr amser a llenwi’r cwestiynau canlynol, bydd eich ymatebion yn cael eu casglu a’u bwydo’n ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel y gallant wella gwasanaethau lle bo angen.

Mae'r wybodaeth a roddwch yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn eich adnabod. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad ar ein gwefan er mwyn i chi weld yr hyn y daethom o hyd iddo. Gallwch gysylltu â ni i ofyn i gopi gael ei anfon atoch os yw'n well gennych.

Diweddaru: 10 Hyd 2022, 12:28 PM